|
1,(2),3.
Wele Iesu, 'r pen rhyfelwr,
Yn dod i'r lan o Edom wlad;
Ei wisg yn goch, ei fraich yn rymus,
A'r ddraig yn glwyfus dan ei draed;
Am yr hynod fuddugoliaeth,
Canaf enyd ar y llawr,
Nes del hyfryd foreu'r canu
Draw yn nhragwyddoldeb mawr. [DW]
Filwyr Seion! cym'rwn galon,
Gwisgwn arfau'r nef yn llawn;
Byddwn gedyrn yn y frwydr,
Tra parhao'n byr brydnawn:
Y mae hyfryd foreu tawel,
Rhanu'r ysbail, bron gerllaw;
Melus seiniwn fuddugoliaeth
Cyn bo hir yr ochr draw. [An]
Cadben mawr ein hiechydwriaeth,
Welaf yn y frwydr hon:
Holl elynion ei ddyweddi,
'N gorfod plygu ger ei fron;
Plant afradlon sy'n dod adref,
A fu 'mhell o
dir eu gwlad;
Y rhai fu'n fudion sy'n clodfori
Duw am iachawdwriaeth rad. [MR]
hiechydwriaeth :: hiachawdwriaeth Holl elynion :: A gelynion Y rhai :: Rhai Duw :: Draw,
- - - - -
Wele Iesu'r pen rhyfelwr
'Nawr yn d'od o Edom wlad!
Coch ei wisg, a'i fraich yn rymmus,
Draig yn glwyfus dan ei dra'd:
Am yr hyfryd fuddugoliaeth
Canaf ronyn ar y llawr,
Hyd nes gwawrio'r hyfryd fore
Cana'i'n nhrag'wyddoldeb mawr. [DW]
Clod i'r Iesu yn drag'wyddol
Am ei ryfedd gariad rhad;
Buddugoliaeth, buddugoliaeth,
Gaed yn berffaith yn ei wa'd;
Nerthoedd uffern a orchfygodd,
Angau faeddwyd ganddo ef;
Yn oes oesoedd caiff ei foli,
A'i glodfori yn y nef. [DW]
- - - - -
Wele Iesu'r pen rhyfelwr
'Nawr yn d'od o Edom wlad!
Coch ei wisg, a'i fraich yn rymmus,
Draig yn glwyfus dan ei dra'd:
Nerthoedd uffern a orchfygodd,
Angau faeddwyd ganddo ef;
Yn oes oesoedd caiff ei foli,
A'i glodfori yn y nef. [DW]
Clod i'r Iesu yn drag'wyddol
Am ei ryfedd gariad rhad;
Buddugoliaeth, buddugoliaeth,
Gaed yn berffaith yn ei wa'd:
Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Canaf ronyn ar y llawr;
Hyd nes gwawrio'r hyfryd fore
Cana'i'n nhrag'wyddoldeb mawr. [DW]
- - - - -
Wele Iesu'r Pen rhyfelwr,
'N dod i'r làn o Edom wlad,
Â'i wisg yn goch, a'i fraich yn rymus,
A'r ddraig yn glwyfus dàn ei draed:
Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Câna'm telyn fach yn awr,
Hyd nes delo'r hyfryd foreu
Y câf finnau'r delyn fawr. [DW]
DW: Dafydd William 1720-94An: Anhysbys (Cas. Samuel Roberts 1841) MR: Morgan Rhys 1716-79
Thonau [8787D]: gwelir: Capten mawr ein hiachawdwriaeth Clod i'r Brenin a orchfygodd Milwyr Sion cym'rwn gallon Wele'r Brawd fu dan yr hoelion |
See Jesus, the chief warrior,
Coming up from the country of Edom;
His clothing red, his arm strong,
And the dragon wounded under his feet;
For the notable victory,
I will sing a while on the earth,
Until the lovely morn of singing come
Yonder in the great eternity.
Soldiers of Zion, take heart!
Let us wear the weapons of heaven fully;
Let us be firm in the battle,
While the shore afternoon lasts:
The lovely, quiet morning of
Sharing the spoil, is almost at hand;
Sweetly let us sound a victory
Before long on yonder side.
The great Captain of our salvation,
I see in this battle:
All the enemies of his betrothed,
Having to bow before him;
Prodigal children are coming home,
Who were distant from
their country's land;
Those who were mute are extolling
God for free salvation.
:: All enemies :: And enemies :: God :: Yonder,
- - - - -
See Jesus, the chief warrior
Now coming from the land of Edom!
Red his clothing, and his arm strong,
A dragon wounded under his feet:
About the lovely victory
I will sing for a while on the earth,
Until the lovely morning dawns
When I will sing in a great eternity.
Praise to Jesus eternally
For his wonderful, free love;
Victory, victory,
Got perfectly in his blood;
The forces of hell he overcame,
Death was beaten by him;
Forever and ever he will be praised,
And extolled in heaven.
- - - - -
See Jesus, the chief warrior,
Now coming from the land of Edom!
Red his clothing, and his arm strong,
A dragon wounded under his feet:
The forces of hell he overcame,
Death was beaten by him;
Forever and ever he will be praised,
And extolled in heaven.
Praise to Jesus eternally
For his wonderful, free love;
Victory, victory,
Got perfectly in his blood:
For the lovely victory,
I will sing a while on the earth;
Until the lovely morning dawns
When I will sing in a great eternity.
- - - - -
See Jesus, the chief warrior,
Coming up from the land of Edom,
With his clothing red, and his arm strong,
And the dragon wounded under his feet:
About the lovely victory,
I will play my little harp now,
Until the lovely morning comes
When I too will play the big harp.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|